Efa Gruffudd Jones
Tudur Dylan Jones
Dafydd Vaughan
Timothy Edwards
Cyfarwyddwr
029 2063 5678
Aled Siôn
Cyfarwyddwr
01678 541 014
A'r cyfan yn bosibl trwy gydweithio gyda channoedd o wirfoddolwyr – diolch iddynt i gyd.
Sian Rogers
Cyfarwyddwr
01678 541 030
Dai Bryer
Cyfarwyddwr
01267 676 642
Huw Antur Edwards
Cyfarwyddwr
01678 541 000
Mali Thomas
Cyfarwyddwr
029 2063 5695
Steffan Jenkins
Cyfarwyddwr
01239 652 140
Gary Lewis
Cyfarwyddwr
029 2063 5686
Daeth cynllun Llwybrau i'r Brig i ben mis Mawrth, 2013 ac yn ystod cyfnod pedair mlynedd y cynllun, llwyddodd yr 16 swyddog i:
Mae dwy ddogfen wedi eu cyhoeddi sydd yn sôn am waith Llwybrau i'r Brig Urdd Gobaith Cymru – gweler gopi llawn ohonynt yma
Mae cynllun newydd wedi ei sefydlu ers Mehefin 2013, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru, sef Prosiect Gweithio'n Gymraeg. Mae 6 swyddog wedi eu penodi i weithio mewn ardaloedd penodol o Gymru.
Roedd 2012/13 yn flwyddyn hynod o brysur i'r mudiad, gyda chynnydd pellach yn ein gweithgareddau, a hyn yn cael ei adlewyrchu mewn twf gwariant refeniw i ychydig dros £9m. Mae cynnydd o'r fath yma yn bosib oherwydd llwyddiant ein swyddogion yn denu grantiau sylweddol yn ogystal â rhoddion hael gan gefnogwyr y mudiad. Diolchaf i bawb am eu parodrwydd i fuddsoddi a chefnogi ein gweithgareddau fel hyn, ac yn arbennig i'r staff am eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb. Oherwydd hyn braf yw gallu nodi ein bod eto eleni yn dangos gweddill iach yn ein cyfrifon.
Cafwyd blwyddyn eithriadol o ran gwariant cyfalaf hefyd, sydd yn golygu fod gwelliannau pellach yn ansawdd ein hadnoddau yng Nglan-llyn a Llangrannog. Roedd gwario dros £0.9m yn bosib oherwydd cefnogaeth partneriaid yn lleol yn ein cynorthwyo i ddod o hyd i grantiau yn ogystal â grant cyfalaf sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig hefyd nodi rhodd arbennig gan un o garedigion y mudiad er mwyn ariannu gwelliannau Llangrannog. Mae defnyddwyr ein canolfannau eisoes yn canmol y gwelliannau a hyderwn y bydd hyn yn fuddsoddiad pwysig ar gyfer gweithgaredd yn y dyfodol.
Da yw gallu adrodd fod gwerth ein buddsoddiadau wedi cynyddu tua £0.25m yn ystod y flwyddyn a bod dros £50k wedi ei dderbyn fel incwm o'r buddsoddiadau yma. Ein bwriad fel mudiad yw ceisio cadw arian wrth gefn i gefnogi gweithgareddau yn y dyfodol pe byddai argyfwng o ryw fath. Er nad ydym wedi cyrraedd ein targed hyd yma mae cynnydd eleni yn gadarnhaol ac oherwydd bod rheolaeth ariannol y mudiad yn effeithiol hyderwn y gallwn gynyddu ein cronfeydd yn y dyfodol.
Fel Trysorydd y mudiad hoffwn ddiolch am gefnogaeth barod fy nghyd-ymddiriedolwyr ac yn arbennig aelodau Bwrdd Busnes yr Urdd. Mae trafodaethau ynglŷn â gwariant, yn enwedig ar wariant cyfalaf, wedi bod yn ddyrys eto eleni ond mae ymroddiad pawb i fuddsoddi amser ac egni yn adlewyrchu hyder yn yr hyn mae'r mudiad yn ceisio ei gyflawni dros blant a phobl ifanc Cymru.
Rydym yn ymdrechu i sicrhau cefnogaeth ariannol i waith yr Urdd o bob math o ffynonellau. Heb y gefnogaeth hon ni fyddai modd i ni gynnig yr amrediad o brofiadau sy'n cael eu disgrifio yn yr adroddiad hwn.
Cynigwyd y grantiau canlynol | £ |
---|---|
Llywodraeth Cymru | 687,184 |
Llywodraeth Cymru (Grant Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol) |
73,720 |
Llywodraeth Cymru – Gemau Cymru | 85,000 |
Grantiau Adeiladau ac Offer | |
Llywodraeth Cymru | 621,292 |
Cyngor Ceredigion RDP | 54,643 |
Cyngor Gwynedd | 281,341 |
ESF Cronfa Cydgyfeiriant – prosiect Llwybrau i'r Brig |
690,304 |
Cyngor Rhondda Cynon Taf – Arian cyfatebol Llwybrau i'r Brig |
49,256 |
Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr | 13,751 |
Cronfa Loteri Fawr (Prosiect Ieuenctid Merthyr) |
9,253 |
Llywodraeth Cymru – Cynllun Ail Iaith | 31,691 |
Llywodraeth Cymru – Cynllun Ail Iaith | 250,000 |
Menter Caerdydd – Cynllun Sbargo | 23,500 |
Cyngor Caerdydd – Gemau Cymru | 15,000 |
Cyngor Bro Morgannwg (LAPA) | 16,000 |
Cyngor Llyfrau | 26,000 |
Menter Iaith Caerffili | 5,500 |
Menter Iaith Maelor | 2,820 |
Menter Iaith Sir y Fflint | 18,000 |
Grantiau i'r Eisteddfod a'r Celfyddydau | £ |
---|---|
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru | 147,900 |
Llywodraeth Cymru | 150,000 |
Cyngor Celfyddydau Cymru – Grym y Fflam (Theatr Ieuenctid) |
64,950 |
Cyngor Celfyddydau Cymru | 30,000 |
Awdurdodau Lleol | £ |
---|---|
Powys | 12,378 |
Ceredigion | 12,500 |
Môn | 20,880 |
Gwynedd | 34,210 |
Conwy | 17,050 |
Penfro | 14,500 |
Dinbych | 23,000 |
Caerffili | 12,000 |
Casnewydd | 20,000 |
Cyngor Bwrdeistref Wrecsam | 16,500 |
Prif Gymynroddion | £ |
---|---|
Rhodd dienw (gan un o garedigion yr Urdd) |
500,000 |
John Thomas, Alltycloriau | 150,565 |
Parch Ann Sheldon (Sutton Coldfield/Rhiwbeina) balans |
15,637 |
Ann Boobyer, Pen-y-bont ar Ogwr – rhan | 17,500 |
John Gareth Lee, Caernarfon | 7,974 |
Kenneth Morgan, Rhos | 10,000 |
Rhiannon Hughes, Mon | 1,000 |
Rydym yn chwilio yn barhaus am noddwyr newydd sy'n gallu ein cefnogi drwy gymorth ymarferol neu ariannol. Mae'r buddiannau y gall yr Urdd eu cynnig yn cynnwys sylw yn ein digwyddiadau a brandio ar ddeunyddiau amrywiol.
Diolchwn i'r sefydliadau canlynol a gefnogodd waith yr Urdd yn ystod y flwyddyn:
Aberystwyth University
Agored Cymru
Antur Teifi
Arts Council of Wales
Bangor University
Barclays
BBC-Radio Cymru
BT
Cardiff Council (Sport Cardiff)
Castell Howell Foods
Dawnus
Deloitte
Doodson
Folly Farm
Gravells
HSBC
Ivor ac Aeres Evans Trust
James Pantyfedwen Foundation
Jane Hodge Foundation
S4C
Jones & Whitehead
Lloyds Motors Aberaeron
Milford Haven Port Authorities
Murco
National Science Academy
Oakwood
Parker Plant Hire
Pembrokeshire Coast National Park
Pembrokeshire Council
Powerade
Principality
RES
Royal Mail
Sports Wales
Swansea University
Telesgop
The Co-operative
The University of South Wales
UCAC
University of Wales Trinity St David
Valero
Welsh Government
Welsh Local Government Association
West Wales Radio
Western Power
Datganiad yr Archwilwyr i Ymddiriedolwyr Urdd Gobaith Cymru
Yr ydym wedi arholi'r crynodeb ariannol ar y dudalen yma.
Cyfrifoldebau priodol ymddiriedolwyr ac archwilwyr
Yr ydych chi fel ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi'r crynodeb ariannol. Yr ydym wedi cytuno i adrodd i chi ein barn ar gysondeb y crynodeb ariannol gyda'r cyfrifon statudol llawn, a arwyddwyd ar 9 Hydref 2013.
Sail ein barn
Yr ydym wedi gwneud y gwaith hynny yr ydym yn ei ystyried yn addas i sefydlu a ydy'r crynodeb ariannol yn gyson gyda'r datganiadau ariannol pan baratowyd rhain oddi wrthynt.
Ein barn
Yn ein barn mae'r crynodeb ariannol yn gyson gyda'r datganiadau ariannol llawn am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2013. Cafodd y datganiadau ariannol llawn eu cyhoeddi gyda barn ddiamod. Mae'r barn archwiliad llawn, gan gynnwys manylion ynglŷn â ehangder ein archwiliad, i'w weld gyda'r datganiadau ariannol blynyddol llawn. Mae copi o'r cyfrifon yma ar gael yn swyddfa cofrestredig yr Urdd.
D.R Patterson ACA FCCA
Uwch Archwiliwr Statudol, ar ran
PJE, Cyfrifwyr Siartredig
Archwilwyr Cofrestredig, Llanbedr Pont Steffan
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr
Mae'r cyfrifon uchod yn grynodeb o wybodaeth a dynnwyd oddi wrth y datganiadau ariannol llawn.
Cymeradwywyd y datganiadau ariannol llawn gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar 9fed o Hydref 2013 ac maent wedi'u hanfon i'r Tŷ Cwmnïau ac i'r Comisiwn Elusennau. Archwiliwyd y cyfrifon gan PJE, Cyfrifwyr Siartredig a rhoddwyd adroddiad diamod arnynt.
Mae'n bosib nad yw'r crynodeb ariannol yn rhoi gwybodaeth ddigonol i roi dealltwriaeth lawn ar faterion ariannol yr elusen. Felly, am wybodaeth bellach, dylid ymgynghori â'r cyfrifon statudol llawn; Adroddiad yr Archwilwyr ar y cyfrifon hynny, ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Ceir copïau o'r rhain oddi wrth y cwmni.
Llofnodwyd ar ran Bwrdd y Cyfarwyddwyr
Grŵp Cwmni Urdd Gobaith Cymru Cyfyngedig
Mantolen 31 Mawrth 2013
2013 £ | 2012 £ | |
---|---|---|
Asedion Sefydlog Eiddo Sylweddol |
9,249,017 | 8,434,839 |
Eiddo a ddelir i'w gwerthu | 75,000 | – |
Buddsoddion | 1,910,753 | 1,607,515 |
11,234,770 | 10,042,354 | |
Asedion Cyfredol | ||
Stoc | 46,488 | 37,384 |
Dyledwyr | 1,017,535 | 1,108,729 |
Arian yn y banc ac Mewn llaw | 2,102,977 | 1,486,651 |
3,167,000 | 2,632,764 | |
Credydwyr | ||
Symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn |
(1,340,056) | (1,530,184) |
Asedau cyfredol net | 1,826,944 | 1,102,580 |
Asedion llai rhwymedigaethau cyfredol | 13,061,714 | 11,144,934 |
Symiau sy'n ddyledus ar ôl blwyddyn |
(596,079) | (686,265) |
12,465,635 | 10,458,669 | |
Cronfeydd | ||
Cronfeydd cyfyng | 3,171,058 | 1,895,462 |
Cyfrif incwm a thraul | 8,030,034 | 7,647,740 |
Cronfa ail-brisio buddsoddion | 1,060,207 | 757,067 |
Cronfeydd gwaddol | 204,336 | 158,400 |
Cronfeydd | 12,465,635 | 10,458,669 |
Incwm | |||
---|---|---|---|
Siart Cyfeirio | % | £ | |
1. | Llangrannog and Pentre Ifan | 19 | 2,003,237 |
2. | Glan-llyn | 11 | 1,154,819 |
3. | Cardiff | 6 | 689,775 |
4. | Incwm o fuddsoddion | 1 | 53,016 |
5. | Eisteddfod 2012 (gan gynnwys grantiau) |
18 | 1,962,343 |
6. | Cylchgronau | 1 | 69,348 |
7. | Aelodaeth | 3 | 332,784 |
8. | Rhoddion a chymynroddion | 8 | 820,698 |
9. | Amrywiol | 2 | 238,755 |
10. | Grantiau (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) | 21 | 2,276,614 |
11. | Grantiau tuag at wariant cyfalaf | 9 | 957,276 |
12. | Chwaraeon | 1 | 146,648 |
Cyfanswm Incwm | 10,705,313 |
Gwariant | |||
---|---|---|---|
Siart Cyfeirio | % | £ | |
1. | Llangrannog and Pentre Ifan | 20 | 1,791,843 |
2. | Glan-llyn | 13 | 1,190,532 |
3. | Cardiff | 7 | 614,386 |
4. | Charity costs | 25 | 2,228,505 |
5. | Eisteddfod | 24 | 2,178,866 |
6. | Cylchgronau | 1 | 123,314 |
7. | Costau trefn lywodraethol | 1 | 107,061 |
8. | Costau codi arian a chyhoeddusrwydd | 0 | 34,445 |
9. | Dibrisiant | 1 | 58,958 |
10. | Chwaraeon | 8 | 673,345 |
Cyfanswm Gwariant | 9,001,255 |
Dosrannwyd costau cefnogi dros y gweithgareddau elusennol ar sail y ganran incwm a dderbyniwyd.
Canlyniad y flwyddyn | ||
---|---|---|
2013 £ |
2012 £ |
|
Mewn lif net o adnoddau am y flwyddyn |
1,704,058 | 535,064 |
Gweddill ar werthu buddsoddion | (232) | (2,037) |
1,703,826 | 537,101 | |
Cynnydd/(Lleihad) ar ail-brisio buddsoddion – heb eu realeiddio |
303,140 | 5,881 |
Cynnydd/(Lleihad) net mewn cronfeydd |
2,006,966 | 542,982 |
Cronfeydd ar 1 Ebrill 2012 | 10,458,669 | 9,915,687 |
Cronfeydd ar 31 Mawrth 2013 | 12,465,635 | 10,458,669 |
Mae'r cyfanswm incwm yn cynnwys £8,377,067 o gronfeydd rhydd, £2,328,501 o gronfeydd clwm a £9,745 o gronfeydd gwaddol. Mae'r cynnydd net am y flwyddyn ar ôl trosglwyddiadau rhwng cronfeydd o £230,731 yn cynnwys gweddill o £695,101 ar gronfeydd rhydd a gweddill o £1,006,327 o gronfeydd cyfyng.
Mai Parry Roberts
Cyfarwyddwr Busnes a Phersonél
a Dirprwy Brif Weithredwr
01678 541 010